1 Chronicles 25

Trefnu y Cerddorion

1Dyma Dafydd a swyddogion y fyddin yn dewis rhai o ddisgynyddion Asaff, Heman a Iedwthwn i broffwydo i gyfeiliant telynau, nablau a symbalau. Dyma'r dynion gafodd y gwaith yma:

2Meibion Asaff:

Saccwr, Joseff, Nethaneia, ac Asarela, dan arweiniad eu tad Asaff, oedd yn proffwydo pan oedd y brenin yn dweud.

3Meibion Iedwthwn:

Gedaleia, Seri, Ishaeia, Chashafeia, a Matitheia – chwech
25:3 Pump enw sydd yn y rhestr. Mae un llawysgrif Hebraeg, a'r LXX yn ychwanegu'r enw Shimei ar ôl Ishaia (gw. adn.17).
, dan arweiniad eu tad Iedwthwn. Roedd yn proffwydo wrth ganu'r delyn, yn diolch ac yn moli'r Arglwydd.

4Meibion Heman:

Bwcïa, Mataneia, Wssiel, Shefwel, Ierimoth, Chananeia, Chanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-Eser, Ioshbecashâ, Maloti, Hothir, a Machsïot. 5Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo'r meibion yma iddo i'w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo.

6Roedd tadau y rhain yn eu harolygu. Cerddorion teml yr Arglwydd oedden nhw, yn canu symbalau, nablau a thelynau yn yr addoliad. Y brenin ei hun oedd yn arolygu Asaff, Iedwthwn a Heman. 7Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr Arglwydd; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol.

8Dyma nhw'n defnyddio coelbren i benderfynu pryd roedden nhw ar ddyletswydd. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried, na p'run ai oedden nhw'n athrawon neu'n ddisgyblion.
9A dyma'r drefn y cawson nhw eu dewis:

1. Joseff o glan Asaff, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
25:9 ei feibion ac aelodau o'i deulu – 12 Mae'n debyg fod y rhif yma wedi ei adael allan o'r Hebraeg yn ddamweiniol (gw. gweddill y rhestr, sef adn.10-31). Hebddo 276 ydy'r cyfanswm, nid 288 fel mae adn.7 yn dweud.
2. Gedaleia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
3. Saccwr, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
4. Itsri
25:11 Itsri Ffurf arall ar yr enw Tseri (adn.3)
, ei feibion ac aelodau o'i deulu
— 12
5. Nethaneia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
6. Bwcïa, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
7. Iesarela
25:14 Iesarela Ffurf arall ar yr enw Asarela (adn.2)
, ei feibion ac aelodau o'i deulu
— 12
8. Ieshaia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
9. Mataneia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
10. Shimei, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
11. Wssiel
25:18 Hebraeg, “Asarel” sy'n ffurf arall ar yr enw Wssiel (gw. 1 Cronicl 25:4).
, ei feibion ac aelodau o'i deulu
— 12
12. Chashafeia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
13. Shwfa-el, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
14. Matitheia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
15. Ieremoth, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
16. Chananeia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
17. Ioshbecashâ, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
18. Chanani, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
19. Maloti, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
20. Eliatha, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
21. Hothir, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
22. Gidalti, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
23. Machsïot, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12
24. Romamti-Eser, ei feibion ac aelodau o'i deulu — 12

Copyright information for CYM